Fy Nuw yn holl beryglon
blin fy nhaith
O! cadw fi;
D'arweiniad rho i mi
drwy'r anial maith,
A chadw fi.
Tra fwyf yn dringo'r ffordd
i'm cartref gwiw,
Bydd imi'n haul a tharian, O! fy Nuw.
Ti'm ceraist â thragwyddol gariad mawr,
I'm cadw i;
Dy annwyl Fab a ddaeth o'r nef i lawr,
I'm cadw i;
A'i roi ei Hun yn
aberth ar y pren
I'm prynu i, a'm dwyn
i'r nefoedd wen.
Dy sanctaidd Air a roist
yn werthfawr ran
I'm cadw i;
A'th Ysbryd yn arweinydd ym mhob man
I'm cadw i;
Yn ddiogel byth, drwy holl
ddeniadau'r byd,
O! cadw fi i'r nefol gartref clyd.
J Gwyndud Jones 1831-1926
Tôn [10.4.10.4.10.10]: Arweiniad |
My God in all the grievous
perils of my journey
O keep me;
Thy leading give me
through the vast desert,
And keep me.
While I am climbing the road
to my worthy home,
Be a sun and a shield to me, O my God!
Thou didst love me with great eternal love,
To keep me;
Thy beloved Son came down from heaven,
To keep me;
And he gave himself as a
sacrifice on the tree
To redeem me, and bring me
to bright heaven.
Thy sacred word thou gavest
as a precious portion
To keep me;
And thy Spirit as a guide in every place
To keep me;
Safe forever, through all
the world's attractions,
O keep me for the secure heavenly home!
tr. 2020 Richard B Gillion
|
|